Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (108)v2 |
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
|
2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (15 munud)
|
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
|
4. Dadl ar Ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i Brentisiaethau yng Nghymru (60 munud)
NDM5142 Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar yr ymchwiliad i Brentisiaethau yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Hydref 2012.
Er gwybodaeth: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 16 Ionawr 2013.
Dogfennau ategol: |
5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM5144 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn mynegi pryder dwys ynghylch effaith negyddol bosibl y cynigion i ad-drefnu GIG Cymru ar gleifion.
2. Yn nodi pryderon eang ynghylch y ffordd anghyson y mae byrddau iechyd lleol yn cynnwys y cyhoedd yn y broses o newid y GIG.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro’i harweiniad ar gynnwys y cyhoedd yn y broses o newid gwasanaethau’r GIG i sicrhau na ellir anwybyddu barn y cyhoedd wrth wneud penderfyniadau ynghylch dyfodol gwasanaethau’r GIG.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gallu ateb unrhyw alw ychwanegol a allai godi yn sgîl ad-drefnu GIG Cymru cyn y caiff unrhyw newidiadau eu gwneud. |
6. Dadl Plaid Cymru (60 munud)
NDM5146 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniad enfawr y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol i economi a diwylliant Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau llwyddiant parhaus y sectorau hyn drwy:
a) adolygu gweithrediad adroddiad Hargreaves, 'Calon Cymru Ddigidol’, i sicrhau bod ei pholisïau’n berthnasol a chyfoes, yn benodol o ran datblygu system breindaliadau hawliau perfformio i Gymru; a
b) sicrhau bod Cyngor Celfyddydau Cymru yn adolygu ei strategaeth ar ffurfiau celf yn ystod 2013 ac yn rhoi sylw llawn i’r angen i gynyddu cyfranogaeth yn y celfyddydau, annog pobl ifanc i ymgysylltu â chreadigrwydd, hyrwyddo rhagoriaeth artistig yn y Gymraeg a’r Saesneg a gosod Cymru ar lwyfan y byd.
Gellir dod o hyd i adroddiad Hargreaves ‘Calon Cymru Ddigidol’ drwy fynd i:
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn edrych ymlaen at weld adroddiad yr ymchwiliad gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i Gyfranogiad yn y Celfyddydau yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad am y cynnydd a wnaed yng nghyswllt argymhellion 4, 12, 19, 22 a 23 ymchwiliad Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i’r Rhagolygon ar gyfer Dyfodol y Cyfryngau yng Nghymru.
Gellir gweld adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen drwy ddilyn y linc a ganlyn:
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella argaeledd seilwaith digidol sy’n gallu cefnogi’r celfyddydau a diwydiannau creadigol drwy gynyddu’r mynediad at fand eang cyflym a gwella mynediad at sianeli Cymreig drwy deledu digidol.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y bydd mwy o gyfranogiad yn y celfyddydau yn creu sylfaen gynaliadwy ar gyfer y Diwydiannau Creadigol yn y dyfodol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer cyfranogi sy’n cynnwys llywodraeth leol, y sector gwirfoddol a Chyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. |
Cyfnod Pleidleisio |
7. Dadl Fer (30 munud)
NDM5145 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):
Arbennig, Unigryw ac mewn Argyfwng
Y bygythiadau i ddiwydiant Cig Oen Cymru a’r angen i weithredu. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 29 Ionawr 2013